Help | Site map | Search | Text links |

 

FOOD STANDARDS AGENCY WALES

Tabl ar gyfer Ymateb i Ymgynghoriad

Crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad GM 2001

Ymatebwyr

Sylw

Camau Gweithredu’r ASB

Arall

CWMPAS

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

  • Cynigion yn ymddangos yn ddigonol ar gyfer gofynion cyffredin y defnyddiwr – ni fyddant yn bodloni’r rhai sy’n dymuno cadw GMOs o’r gadwyn fwyd.
  • Er mai Ewrop sy’n pennu Rheoliadau, yn fodlon gan fod yna benrhyddid o fewn Cymru i ddehongli rheolau er mwyn diwallu anghenion unigol.
  • Labeli’n ymddangos yn ddigonol ond efallai bod angen eu newid yn sgil profiad.

Undeb Amaethwyr Cymru

  • Cefnogi’n llawn y mesurau a gynlluniwyd ar gyfer gwella gofynion labelu presennol waeth a yw’n bosib mesur gwahaniaethau mewn cyfansoddiad cemegol rhwng cynhwysion GM a rhydd o GM ai peidio.

Comisiwn Cig a Da Byw

  • Croesawu amcanion cyffredinol y rheoliadau arfaethedig.
  • Pryder nad yw rheoliadau drafft yn cyfeirio at labelu negyddol megis "rhydd o GM" – ystyried diffinio labelu negyddol yn y gyfraith er mwyn osgoi camarwain defnyddwyr.
  • Croesawu gofynion i nodi presenoldeb GMOs mewn bwyd a bwydydd anifeiliaid.

Cyngor Sir Powys

  • Cefnogi’n llawn y gofyniad ar gyfer labelu bwyd yn glir i alluogi dewis deallus – o’r farn nad yw’r cynigion yn darparu ar gyfer hyn.
  • Gofynion labelu yn gamarweiniol i ddefnyddwyr. Er enghraifft, "nid oes angen labelu bwyd o anifeiliaid a gafodd eu bwydo ar fwydydd anifeiliaid GM".

David Smith Pwyllgor Ymgynghorol Cymru (PYC)

  • Nid yw’r cynigion yn ddigonol i gwrdd â gofynion defnyddwyr – nid ydynt yn ychwanegu unrhyw werth.

Bruce Cotterill, ADAS

  • Mae’n ymddangos bod yna beth anghysondeb yn y gofynion labelu. Mae angen labelu cynhyrchion sy’n deillio o gynhwysion GM ond nad ydynt yn cynnwys deunydd GM ond nid oes angen labelu bwyd a gynhyrchwyd gyda chymorth ensymau o ffynonellau GM – nodi enghraifft.

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

  • Pryder fod labelu cynhyrchion a gynhyrchwyd o GMO ond nad ydynt yn cynnwys GM mewn cynnyrch terfynol yn anymarferol ag yn agored i gael ei gamddefnyddio.
  • Croesawu rheolau penodol ar gymeradwyo a labelu bwydydd anifeiliaid GM.
  • Mae cynigion yn ddigonol ar gyfer anghenion defnyddwyr os cânt eu gweithredu’n effeithiol.

Trothwyon

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

  • Dim sylwadau.

David Smith PYC

  • Nid yw’r cysyniad o drothwy yn ymarferol. Dylid ei bennu ar 0%.
  • Ddim yn teimlo fod yna gyfyngiad ymarferol ar lefelau trothwy – dibynnu pwy sy’n cyllido profion.

Undeb Amaethwyr Cymru

  • Derbyn na ellir osgoi halogiad damweiniol – croesawu cymeradwyaeth ymarferol y Comisiwn wrth bennu trothwy.
  • Anodd gweld sut gellir gweithredu trothwyon – angen dull canfod achrededig.

Canfod a Gorfodi

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

  • Dim sylw.

Undeb Amaethwyr Cymru

  • Credu y dylid rhoi cyfrifoldeb ar weithgynhyrchwyr bwyd a bwydydd anifeiliaid i ddangos a yw cynnyrch, yn cynnwys cynhwysion fel cyflasynnau, yn deillio o ffynhonnell GM.
  • Dylid rhoi sylw priodol i ddarpariaethau monitro a gorfodi’r rheoliadau ar gyfer cynhyrchion GM sy’n cael eu mewnforio.

Comisiwn Cig a Da Byw

  • Croesawu’r gofyniad i hysbysu defnyddwyr pan na fo bwyd neu fwydydd anifeiliaid GM yn gyfwerth i gymharydd confensiynol neu pan fo addasu yn creu pryderon moesegol neu grefyddol.
  • Pryder fod yna berygl sylweddol i elfennau o’r ddau gynnig fod yn anymarferol.
  • Canmol yr awydd i ddefnyddio mesurau olrhain cod unigryw.
  • Pryder ynglŷn ag ymarferoldeb gweithredu systemau olrhain sy’n seiliedig ar godau digwyddiadau.
  • Mae’n rhaid i ddiffiniad o ‘god unigryw’ gynnwys darpariaeth ar gyfer codau unigryw i organebau gydag un neu fwy o ddigwyddiadau addasu.

Cyngor Sir Powys

  • Cyfyngiadau ymarferol ar labelu ac olrhain i’w cael y pellach ewch chi i lawr y gadwyn gynhyrchu.

Gweithdrefn yn syml ar gyfer gweithgynhyrchwyr, yn fwy beichus i gaffis/bwytai ac ati.

David Smith PYC

  • Dylai labeli fod yn hollol agored a gonest.
  • Dylai’r broses o orfodi gofynion gynnwys difetha cynnyrch a gamlabelwyd heb iawndal.
  • Mae angen i ddulliau canfod newid gyda thechnolegau datblygol yn hytrach na’u gosod ar dechnoleg heddiw.

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

  • Mae’n rhaid i’r Comisiwn fod yn bendant fod yna brofion cyson ar gael cyn cyflwyno system ar gyfer gorfodi effeithiol.
  • Bydd costau profion yn uchel iawn.
  • Mae dulliau canfod cyfredol yn anodd i’w defnyddio gyda deunydd prosesedig pur iawn.
  • Ddim yn ymwybydol o unrhyw ddulliau canfod ar gyfer olewau sy’n deillio o gynnyrch GM ac eithrio protein neu ddadansoddiad DNA.

Awdurdodi a Cheisiadau

Undeb Amaethwyr Cymru

  • Mae’n bwysig cael yr un safon wrth asesu diogelwch bwyd, yn cynnwys cynnyrch sy’n cael ei fewnforio o wledydd y Trydydd Byd – cefnogi cynigion i wneud yr EFA yn gorff asesu o fewn yr UE.
  • O ystyried pa mor gyflym mae technoleg yn datblygu, awgrymu y dylid adolygu ceisiadau awdurdodi bob pum mlynedd yn hytrach na deng mlynedd.

Comisiwn Cig a Da Byw

  • Croesawu’r ffaith fod y weithdrefn gymeradwyo wedi’i symleiddio trwy gyfuno bwyd a bwydydd anifeiliaid.
  • Croesawu’r ffaith fod cymeradwyaethau i’w seilio ar ddadansoddiad risg.
  • Dymuno gweld cadw darpariaeth Erthygl 29 ym Mhennod IV mewn unrhyw fersiwn o’r cynnig yn y dyfodol.
  • Sylwadau manwl ar Erthygl 3(1), 4(1), 6(3), 14(2), 16(1), 17(1), 18(1)(b), 27(3)(b).
  • Pryder ynglŷn â’r angen am gysondeb yn y ceisiadau.

David Smith PYC

  • Y ddogfen gryno yn annigonol ar gyfer gwahodd sylwadau gan y cyhoedd.
  • Dylid adnewyddu awdurdodiadau bob pum mlynedd – bydd hyn yn fwy effeithiol.

Bruce Cotterill, ADAS

  • Os yw EFA’n gyfrifol am y broses gymeradwyo bydd angen protocolau cadarn wedi’u cytuno gan yr holl aelod-wladwriaethau i sicrhau maes chwarae gwastad wrth asesu diogelwch.

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

  • Gall y ddogfen gryno fod yn ddigonol ond dylid darparu manylion llawn i’r cyhoedd lle bo’n bosib.
  • Mae’r gofyniad i adnewyddu ceisiadau yn rhoi cyfle i asesu a oes tystiolaeth o effeithiau tymor hir wedi dod i’r amlwg.
  • Croesawu system asesu ganolog.
  • Dylai’r ffaith fod yr awdurdodiadau’n cael eu rhoi ar gyfer bwyd a bwydydd anifeiliaid neu’r un o’r ddau helpu i atal halogiad x.

Costau a Manteision

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

  • Ni ddylai prosesau sefydlu olrheinedd GMOs a labelu dilynol er budd y defnyddiwr niweidio busnesau bach gan beri iddynt osgoi profi/labelu cynhyrchion.
  • Ni ddylai cost fod mor uchel fel ei fod yn peryglu bodolaeth y busnes.

Comisiwn Cig a Da Byw

  • Pryderon sylweddol ynglŷn ag ymarferoldeb costau posib defnyddio rhai o’r mesurau arfaethedig.

David Smith, ACW

  • Data annigonol i alluogi sylwadau ar effaith a goblygiadau cost.

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

  • Pryderu y bydd ffermwyr sy’n dibynnu ar soia a fewnforir o du allan i’r UE yn cael eu cosbi gan gostau profi ychwanegol.
  • Bydd angen cyfarwyddyd swyddogol ar samplu a phrofi i osgoi ansicrwydd.

Arall

Undeb Amaethwyr Cymru

  • Parhau i gredu nad oes cyfiawnhad ar gyfer cyflwyno a defnyddio cnydau GM ar gyfer cynhyrchu bwyd – mae aelodau o’r farn y dylent ddal i allu honni bod Cymru yn rhydd o gnydau GM.

David Smith, PYC

  • Nid yw swyddogion y tollau yn rheoli mewnforion yn effeithiol erbyn hyn – mae angen deddfwriaeth newydd a mwy o arian i orfodi dulliau rheoli presennol.

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

  • Anodd gweld sut y bydd goblygiadau ar fewnforwyr yn gweithio’n ymarferol.
  • Siom na roddwyd canllawiau clir ar ddefnyddio termau megis "rhydd o GM".
  • Mae’r NFU o’r farn y dylid gwahanu GMOs a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt er mwyn sicrhau labeli ystyrlon.

Dim sylw sylweddol

 

Help | © Crown Copyright | Government Information Website |

Home
 | Your feedback | About the Agency  | Scotland  | Wales |  Northern Ireland | Consultations | Events | Press releases  | Your food - farm to fork | Scientific committees Research | Food surveillance | Regulations | Industry and enforcement | Meat Hygiene Service | Archive | Links | Contacts |