|
AWD
|
Adran Lles Anifeiliaid Y Weinyddiaeth
Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (MAFF)
|
|
Marc Siarter
|
Gwobr gan y Llywodraeth (Swyddfar
Cabinet) i gydnabod safonau neilltuol ym maes gwasanaeth cwsmeriaid.
Dyfarnwyd ir Gwasanaeth Hylendid Cig ym 1998 iw gadw
am 3 blynedd.
|
|
Anghydffurfio difrifol
|
Unrhyw anghydffurfio syn achosi
perygl uniongyrchol, difrifol i iechyd y cyhoedd, ac yn gofyn am
weithredu syth gan y Gwasanaeth Hylendid Cig i adfer y sefyllfa.
|
|
Anghydffurfio difrifol mewn perthynas
â thargedau lles anifeiliaid
|
Unrhyw anghydffurfio syn brifo,
cyffroi neu wneud i anifail ddioddef yn ddiangen.
|
|
FSA
|
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Sefydlwyd
ar 1 Ebrill 2000 gydar nod o ddiogelu iechyd y cyhoedd o beryglon
syn codi o fwyta bwyd, a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn
perthynas â bwyd.
|
|
Targedau gwasanaeth cwsmeriaid yr FSA
|
Set o safonau a gynlluniwyd i sicrhau
y gwasanaeth gorau posib ir cyhoedd gan yr Asiantaeth Safonau
Bwyd. Maer rhain yn nodi amserlenni ar gyfer ateb gohebiaeth,
a delio gydag ymholiadau ffôn a galwyr personol. (Gellir cael
manylion ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef www.foodstandards.gov.uk).
|
|
FVO
|
Swyddfa Fwyd a Milfeddygaeth y Comisiwn
Ewropeaidd. Maen cynnal ymweliadau archwilio neu genadaethau
i Aelod-Wladwriaethau i wirio cydymffurfiad â gofynion Cyfarwyddebau
Ewropeaidd.
|
|
HACCP
|
Rheolbwynt Critigol Dadansoddi Peryglon.
System ymarferol y gall busnesau bwyd ei defnyddio i sicrhau fod
eu cynhyrchion yn ddiogel. Maen adnabod peryglon posib ac
yn canolbwyntio ymdrech reoli ar gamau critigol yn y gwaith.
|
|
HAS
|
System Asesu Hylendid. Dull risg-seiliedig
o asesu safonau hylendid mewn lladd-dai trwyddedig a busnesau torri
cig syn cael ei gynnal gan Filfeddygon Swyddogol (OVSau) y
Gwasanaeth Hylendid Cig. Cyhoeddir sgoriaur busnesau
sgoriau HAS yn fisol yn Atodiad HAS Adroddiad Gorfodi Hylendid
Cig.
|
|
Rheol OTM
|
Rheol Dros Dri Deg Mis. Y rheol syn gwahardd
gwartheg dros drideg mis oed or gadwyn fwyd ddynol (ac eithrio
gwartheg a gofrestrwyd o dan Gynllun Sicrwydd Cig Eidion).
|
|
MHAC
|
Pwyllgor Ymgynghorol Hylendid Cig. Corff newydd
a sefydlwyd i oruchwylio gwaith y Gwasanaeth Hylendid Cig ac i fod
yn gyfrifol am bolisi hylendid cig yn gyffredinol. Is-gadeirydd
yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Suzi Leather, yw Cadeirydd y Pwyllgor
syn cynnwys aelodau eraill o brif Fwrdd yr FSA. Etholir nifer
o aelodau annibynnol ar sail cystadleuaeth agored.
|
|
MHS
|
Y Gwasanaeth Hylendid Cig. Rhan or Asiantaeth
Safonau Bwyd. Sefydlwyd yn wreiddiol ar 1 Ebrill 1995 fel asiantaeth
weithredol MAFF. Yn gyfrifol am hylendid, archwilio a lles anifeiliaid
mewn busnesau cig ffres trwyddedig ledled Prydain.
|
|
OVS yr MHS
|
Milfeddyg Swyddogol yr MHS. Yn gyfrifol am archwiliadau
cyn ac ar ôl marwolaeth, ac am oruchwylio hylendid o ddydd
i ddydd mewn busnesau cig ffres trwyddedig.
|
|
Llawlyfr Gweithrediadau MHS
|
Ffynhonnell swyddogol cyfarwyddyd a gwybodaeth ar
gyfer staff gweithredol yr MHS. Caiff y ddogfen hon ei diweddarun
gyson i gynnwys newidiadau ir ddeddfwriaeth a datblygiadau
gwyddonol newydd.
|
|
Gweithgor Mân Reolaur Diwydiant Cig
|
Gweithgor annibynnol, a gadeirir gan Robin Pooley,
ac a sefydlwyd ym Medi 1999 i ystyried baich mân reolau o
fewn y diwydiant cig. Lluniodd y grup adroddiad (Adroddiad Pooley)
yn Rhagfyr 1999 yn nodi 35 o argymhellion ar gyfer newidiadau yn
y sector gig.
|
|
Grup Pooley / Adroddiad Pooley
|
Gweler Gweithgor Mân Reolaur Diwydiant Cig.
|
|
POVS
|
Prif Filfeddyg Swyddogol yr MHS. Yn gyfrifol am
reolir OVSau o fewn ardal ddaearyddol benodol.
|
|
SRM
|
Deunydd Risg Benodol. Meinwe o wartheg, defaid a
geifr syn fwyaf tebyg o gynnwys yr haint BSE (e.e. yr ymennydd,
llinyn y cefn). Wedii wahardd or gadwyn fwyd.
|
|
SVS
|
Gwasanaeth Milfeddygol y Wladwriaeth, rhan o Gyfarwyddiaeth
Diogelwch Bwyd MAFF.
|
|
VMHA
|
Ymgynghorwyr Milfeddygol Hylendid Cig. Yr Asiantaeth
Safonau Bwyd syn cyflogir rhain yn Lloegr, a Gwasanaeth
Milfeddygol y Wladwriaeth syn gwneud hynny yng Nghymru ar
Alban. Yn gyfrifol am drwyddedu busnesau cig ffres a chynnal ymweliadau
archwilior MHS mewn busnesau trwyddedig.
|
|
VPHU
|
Uned Iechyd Milfeddygol y Cyhoedd. Rhan or
Asiantaeth Safonau Bwyd syn rhoi cyngor milfeddygol ir
Asiantaeth ar beryglon iechyd y cyhoedd syn deillio o fwyd
neu anifeiliaid. Mae ganddo bolisi a chyfrifoldeb gweithredol am
drwyddedu busnesau cig a phenodi OVSau, ac maen cynnal archwiliad
or MHS.
|