Help | Site map | Search | Text links |

 

FOOD STANDARDS AGENCY WALES

TARGEDAU PERFFORMIAD ARFAETHEDIG YR MHS 2001/02

Materion a Nodau

Targed 2001/2

Asesiad

Mantais i’r Defnyddiwr

1. Diogelu Iechyd y Cyhoedd

   

Cig yn fwy diogel i’w fwyta o ganlyniad i’r canlynol:

  1. Lleihau peryglon microbiolegol mewn cig

Gweithredu Polisi Anifeiliaid Glân yr MHS yn llawn.

Archwiliad y VMHA o gydymffurfiad â gofynion y Llawlyfr Gweithrediadau. I’w seilio ar y nifer o anghydffurfiadau mawr a difrifol perthnasol mewn archwiliadau cyn-marwolaeth. Ni fydd anghydffurfio difrifol yn cael ei oddef.

Llai o berygl o grwyn / cnuoedd budr yn heintio carcasau

 

Peidio rhoi stamp marc iechyd ar unrhyw gig sy’n dangos heintiad amlwg gan yr ysgarthion neu gan gynnwys y bibell faeth.

Archwiliad y VMHA o gydymffurfiad â gofynion y Llawlyfr Gweithrediadau. I’w seiliio ar y nifer o anghydffurfiadau mawr a difrifol perthnasol mewn archwiliadau cyn-marwolaeth. Ni fydd anghydffurfio difrifol yn cael ei oddef.

 

Llai o facteria ar y carcas: cig glân i’w brosesu

 

Cymryd camau effeithiol i wella safonau hylendid mewn lladd-dai sydd â sgoriau HAS isel.

Llunio cynlluniau gweithredu chwe mis unigol i sicrhau gwelliannau o fewn tri mis i sgôr HAS busnes ddisgyn o dan 70.

Darparu adroddiad ar gynnydd busnesau unigol i Bwyllgor Ymgynghorol Hylendid Cig erbyn 31 Mawrth 2002, yn rhoi manylion am unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd.

VHMAu i gynnal archwiliad ym mhob busnes sydd â sgôr HAS o lai na 50 ar 31 Rhagfyr 2001, i asesu cydymffurfiad MHS â’r Llawlyfr Gweithrediadau, ac a gymerwyd camau gorfodi priodol ym mhob achos. Cwblhau’r adroddiad erbyn 31 Mawrth 2002. Ni fydd anghydffurfio difrifol yn cael ei oddef.

Sicrwydd bod camau gorfodi effeithiol yn cael eu cymryd i wella safonau hylendid neu i atal/diddymu trwyddedau.

 

Gweithredu o fewn 3 mis i roi sylw i ganfyddiadau gweithredol allweddol cenadaethau’r FVO (h.y. adroddiadau terfynol a gyhoeddir yn 2001) mewn perthynas â rheolaeth, goruchwyliaeth neu orfodaeth yr MHS.

Darparu adroddiad i Bwyllgor Ymgynghorol Hylendid Cig erbyn 31 Mawrth 2002, yn rhoi manylion am bob cam rheoli a gorfodi a gymerwyd yn achos pob mater perthnasol (gyda chopïau o unrhyw gyfarwyddiadau ayb. a gyhoeddwyd).

Sicrwydd bod camau cywiro yn cael eu cymryd i roi sylw i ddiffygion a nodwyd. Rheolaeth, goruchwyliaeth neu orfodaeth yr MHS.

b) Cael gwared â Deunydd Risg Benodol (SRM) o’r gadwyn fwyd ddynol a chadwyn bwyd anifeiliaid.

Gweithredu rheolaethau SRM yn llym mewn lladd-dai.

Ymweliadau archwilio misol dirybudd i holl fusnesau trwyddedig gan Wasanaeth Milfeddygol y Wladwriaeth. I’w seilio ar ganran yr ymweliadau boddhaol. Ni fydd methiannau difrifol fel canfod llinyn y cefn ar garcas gyda marc iechyd arno yn cael ei oddef.

Atal meinweoedd a all gynnwys yr haint BSE rhag cael mynediad i’r gadwyn fwyd.

c) Cael gwared â gwartheg Dros Dri Deg Mis (OTM) o’r gadwyn fwyd ddynol a chadwyn bwyd anifeiliaid.

Gweithredu rheolaethau SRM yn llym mewn lladd-dai.

 

 

Ymweliadau archwilio misol dirybudd â holl fusnesau trwyddedig. I’w seilio ar ganran yr ymweliadau boddhaol. Ni fydd methiannau difrifol fel rhoi marc iechyd i garcas anifail oedd dros 30 mis oed ar adeg lladd yn cael ei oddef.

Atal meinweoedd a all gynnwys yr haint BSE rhag cael mynediad i’r gadwyn fwyd.

2. Lles Anifeiliaid

Gweithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Lladd) yn llym.

Archwiliad y VMHA o gydymffurfiad â gofynion y Llawlyfr Gweithrediadau. I’w seilio ar y nifer o anghydffurfiadau mawr a difrifol. Ni fydd anghydffurfio difrifol yn cael ei oddef.

Y broses ladd ddim yn cyffroi, brifo na gwneud i unrhyw anifail ddioddef yn ddiangen.

3. Hyfforddi Staff

Darparu hyfforddiant cyfredol i bob POVS a chyfarwyddyd ar HACCP i OVSau (datblygu cwrs ar y cyd â’r FSA).

Gan Bwyllgor Ymgynghorol Hylendid Cig, ar sail dychweliadau gan yr MHS.

Staff wedi’u hyfforddi’n well, yn arwain at orfodi deddfwriaeth lles a hylendid mwy effeithiol.

 

Darparu hyfforddiant cyfredol i bob POVS a chyfarwyddyd ar Les Anifeiliaid i OVSau (datblygu cwrs ar y cyd ag AWD MAFF).

   
 

Sicrhau bod yr holl hyfforddiant wedi’i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2002 a’i fod yn cydymffurfio â gofynion IIP arfer gorau cytûn (yn cynnwys cyflwyno adroddiadau ar werthuso effeithiolrwydd yr hyfforddiant gyda golwg ar wella parhaus).

(Noder: Mae’r targed yn cwmpasu’r POVSau a’r prif OVSau sydd mewn swyddi ar 1 Ebrill 2001)

   

4. Canolbwyntio / Darparu gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid

Cyflawni targedau’r FSA ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid.

Ateb gohebiaeth o fewn 20 diwrnod gwaith, ateb galwadau ffôn o fewn 30 eiliad, a chyfarfod ymwelwyr o fewn 10 munud i apwyntiad neu 30 munud i ymweliad dirybudd.

Sicrwydd o wasanaeth safon uchel.

 

Parhau i gydymffurfio’n llwyr â safonau’r Marc Siarter.

Cadw’r Marc Siarter (Swyddfa’r Cabinet).

 

5. Gwerth am Arian / Effeithlonrwydd

Gweithredu’r argymhellion a dderbyniwyd gan adolygiad Deloitte o effeithlonrwydd yr MHS o fewn yr amserlenni a gytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Ymgynghorol.

I’w hasesu gan gyflawniad llwyddiannus y cerrig milltir y cytunwyd arnynt fel rhan o gynllun i gyflwyno gwelliannau mewn effeithlonrwydd.

Gwella effeithlonrwydd gweithrediadau MHS a rhoi gwerth am arian o ganlyniad.

6. Perfformiad Ariannol

Gweithredu o fewn cyllidebau anoddau cytûn yr MHS ar gyfer 2001/02.

Gan Fwrdd Goruchwylio’r MHS ar sail adroddiadau archwilio Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gyfrifon yr MHS, a Chyllid FSA.

Gweithredu o fewn adnoddau ariannol.

 

Gweithredu o fewn ffigwr rheoli cyfanswm arian net y cytunwyd arno gyda’r FSA.

Gan FPIT ar sail sefyllfa wirioneddol yr arian net ar 31 Mawrth o’i gymharu â’r hyn a ragwelwyd yn dilyn diwedd trydydd chwarter y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Help | © Crown Copyright | Government Information Website |

Home
 | Your feedback | About the Agency  | Scotland  | Wales |  Northern Ireland | Consultations | Events | Press releases  | Your food - farm to fork | Scientific committees Research | Food surveillance | Regulations | Industry and enforcement | Meat Hygiene Service | Archive | Links | Contacts |